doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Fe wnes i gyrraedd fy nghwrs yn hwyr a gwrthodwyd i mi fynd arno. Beth ydw i’n wneud nawr?

Cwestiynau Cyffredin

Fe wnes i gyrraedd fy nghwrs yn hwyr a gwrthodwyd i mi fynd arno. Beth ydw i’n wneud nawr?

Os ydych yn dal mewn pryd bydd angen i chi ail archebu eich cwrs.

Ni fydd y darparydd cwrs yn caniatáu mynediad unwaith y bydd proses gofrestru’r cwrs wedi dechrau.

Gallai darparydd y cwrs godi ffi cwrs arall arnoch, heb yr elfen adfer costau yr ydych wedi ei thalu’n barod am y cwrs a gollwyd gennych.

I weld a allwch chi ail archebu eich cwrs, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i fynd i mewn i’r safle archebu a chysylltu â darparydd y cwrs.

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN.

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau opsiwn yn eich cymryd at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content