doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Humberside

Cwestiynau Cyffredin

Humberside

Safer Roads Humber – Cyrsiau Diogelwch i Yrwyr

 

Sut ydw i’n cysylltu â Safer Roads Humber?

Ewch i  http://www.saferroadshumber.com/booking-an-awareness-course/

Neu, ffoniwch ein swyddfa archebu ar (01482) 399065. (Mae’r llinellau’n agored 0900-1200 Llun-Gwe) neu anfonwch e-bost atom i [email protected]

 

Sut ydw i’n mynychu ?

Gallwch fynychu drwy fynd i un o’n cyrsiau ystafell ddosbarth neu fynd ar gwrs ar-lein.

 

 Pa mor hir yw’r cwrs?

Mae’r cwrs yn para 2.45 awr ar gyfer Ymwybyddiaeth Cyflymder a 3 awr ar gyfer Beth sy’n Ein Gyrru Ni a Thraffyrdd. Mae egwyl o 10 munud hanner ffordd drwy’r cwrs.

 

Sut mae’r cyrsiau ar-lein yn cael eu darparu?

Mae ein cyrsiau’n cael eu darparu drwy Microsoft Teams. Mae gan bob cwrs hyd at 10 cleient a Chyflwynydd. Gall y cleientiaid fynd ar y cwrs o unrhyw leoliad lle mae ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.

 

Pa offer fydd eu hangen arnaf ar gyfer y cwrs ar-lein?

Byddwch angen un o’r canlynol: cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn symudol (ffôn clyfar). Mae’n rhaid i’ch dyfais gael cysylltiad â’r rhyngrwyd, gwe-gamera, microffon, seinyddion neu glustffonau a chysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd. Rydym yn argymell eich bod yn cadw eich dyfais wedi’i chysylltu â’r cyflenwad trydan yn ystod y cwrs neu fod gennych ddigon o wefr yn eich batri am o leiaf 3 awr.

Hefyd bydd angen papur a phensil/beiro arnoch oherwydd byddwch yn cael eich annog i gymryd nodiadau yn ystod y cwrs.

Ewch i www.saferroadshumber.com i gael gwybodaeth fanylach, yn cynnwys sut i fynd ar ein cyrsiau ar-lein, canllawiau i ddefnyddwyr dyfeisiau a rhagor o gwestiynau cyffredin.

 

 Dydw i ddim yn dda iawn ar y cyfrifiadur a dydw i ddim yn deall rhyw lawer am dechnoleg

Peidiwch â phoeni. Mae mynd ar gwrs ar-lein yn ddigon syml a does dim angen llawer o arbenigrwydd technegol. Mae gennym Dîm Cymorth i Gleientiaid a fydd ar gael i’ch helpu ar y ffôn ar bob cam. Ffôn 01482 398252. (Os bydd angen, gall aelod o’r teulu eich helpu i osod eich dyfais ar ddechrau’r cwrs).

 

Rydw i wedi archebu fy nghwrs. Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau ymuno?

Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau ar yr un diwrnod â’ch archeb. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os nad ydych wedi derbyn y neges, edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach. Os nad yw yno, ffoniwch ni a byddwn yn ei hanfon eto. Byddwn yn anfon y ddolen ar gyfer y cwrs ar y diwrnod cyn y cwrs.

 

A oes unrhyw beth y dylwn ei wneud i baratoi ar gyfer y cwrs?

Oes. Gweler ein cyfarwyddiadau gosod ar ein gwefan www.saferroadshumber.com/courses.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn treialu’r system cyn eich cwrs er mwyn osgoi unrhyw broblemau technegol funud olaf. Gall Tîm Cefnogi’r Cleientiaid eich helpu gyda hyn.

 

Sut ydw i’n mynd i mewn i’m cwrs ar y diwrnod?

Byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys dolen unigryw i’ch cwrs un diwrnod gwaith o flaen llaw. Yn syml iawn, cliciwch ar y ddolen hon yn y 15 munud cyn amser cychwyn eich cwrs.

 

Oes angen unrhyw beth arall arnaf?

Bydd angen i chi ddangos rhyw fath o ddogfen adnabod (ID) gyda llun i’r cyflwynydd wrth gofrestru eich presenoldeb ar ddechrau’r cwrs. Gall ID gynnwys eich trwydded yrru cerdyn llun, pasbort, ID gwaith neu fath arall o ID llun gyda’ch enw arno. Rhaid i unrhyw ID fod yn ddogfen wreiddiol.

 

 Os bydd fy offer yn methu yn ystod y cwrs, a fyddaf yn gallu ail archebu’r cwrs am ddim?

Byddwch, byddwch yn cael cyfle i roi cynnig arall arno ac ail archebu am ddim, ar yr amod bod lle ar gael.

 

 A fydd prawf yn ystod y cwrs ar-lein?

Does dim prawf penodol, ond er mwyn cwblhau’r cwrs ar-lein yn llwyddiannus, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn llawn drwy gydol y cwrs, fel y bydd y Cyflwynydd yn ei gyfarwyddo.

 

A yw’r cwrs yn gyfrinachol?

Ydi. Mae diogelu cyfrinachedd ein cleientiaid yn hollbwysig felly mae’n rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw un arall heblaw cyfranogwr y cwrs yn gallu gweld eich sgrin. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y cwrs ar-lein mewn ystafell breifat heb unrhyw beth i dynnu eich sylw.

 

A gaf i gyfieithydd gyda mi ar y cwrs?

Cewch.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwch gael aelod o’r teulu neu ffrind i’ch helpu yn ystod y cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni ac yn rhoi eu henw i ni wrth archebu’r cwrs. Nodwch fod yn rhaid i unrhyw berson sy’n eich helpu fod o leiaf 16 oed, ac os yn bosib yn yrrwr car, ac yn siarad (a deall) Saesneg, a’r iaith y maen nhw’n ei chyfieithu, yn rhugl. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddarparu ID llun hefyd wrth fynd ar y cwrs gyda chi. Os oes gennych nam ar eich clyw ac y mae angen rhywun i arwyddo i chi, byddwn yn darparu cyfieithydd/cyfieithwyr BSL am ddim. Rhowch wybod i’r aelod o staff archebu pan fyddwch yn archebu os gwelwch yn dda.

 

A yw eich cyrsiau yn gwbl hygyrch?

Ar adeg archebu cwrs gyda ni, byddem yn gwahodd unrhyw gleient posibl i nodi os oes ganddyn nhw angen arbennig er mwyn eu helpu nhw i fynd ar gwrs a chymryd rhan yn llawn ynddo. Byddwn yn gwneud pob addasiad rhesymol i sicrhau’r profiad gorau i bob cleient. Cysylltwch â’r llinell archebu i roi gwybod i ni am unrhyw anghenion arbennig.

 

Does gen i ddim darpariaeth gofal plant – a fyddaf i’n dal i allu mynd ar y cwrs ar-lein?

Er mwyn i chi ganolbwyntio a chymryd rhan yn llawn, mae’n ofyniad eich bod yn gallu cwblhau’r cwrs mewn lle tawel. Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau drwy gydol y dydd, felly efallai y dylech ystyried y slot amser gorau a fyddai’n cyfateb i’ch anghenion. Yn y pen draw, os na allwch fynd ar y cwrs a’i gwblhau, yna bydd angen i chi ystyried un o’r opsiynau erlyn eraill.

 

 Beth sy’n digwydd os na allaf gwblhau’r cwrs cyn fy nyddiad cwblhau?

Ein bwriad yw sicrhau bod pawb sy’n derbyn cynnig o gwrs diogelwch gyrru yn cael pob cyfle i’w gwblhau.

 

 Ychydig o sylwadau gan gleientiaid blaenorol am ein cyrsiau:

“Roedd yn ardderchog, mae’n rhaid i mi fod yn onest – llawn gwybodaeth ac yn llawer mwy addas i’r ffordd rydw i’n dysgu na gwers mewn ystafell ddosbarth”

“Roeddwn i’n ansicr ynglŷn â gwneud cwrs ar-lein, ond ni chafwyd unrhyw broblemau technegol ac roedd yn gyfleus iawn ei wneud adref. Rhoddodd Tim y wybodaeth i mi mewn ffordd hynod o ddiddorol a gwybodus a sicrhaodd fod pawb yn talu sylw”.

“Diolch yn fawr am roi’r cyfle i mi gymryd rhan yn y cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder heddiw. Roedd y cwrs yn llawn gwybodaeth, yn rhoi dealltwriaeth dda i ni ac yn ein diddanu. Roedd y cyflwynydd yn dda iawn ac roeddwn i’n hoffi pa mor gyfleus oedd hi i gymryd y cwrs ar-lein yn hytrach na mynd i mewn i ystafell ddosbarth oddi ar y safle i gwblhau’r cwrs”.

“Cafodd y cwrs ei wneud mewn ffordd hynod o broffesiynol ond hefyd mewn ffordd anffurfiol a ganiataodd i’r defnyddiwr ymgysylltu’n dda er mwyn caniatáu i ffeithiau difrifol gael eu rhannu mewn ffordd hawdd ei deall. Roeddwn yn teimlo’n hyderus yn rhannu fy meddyliau gyda grŵp llai yn gyfforddus adref. Roedd y wybodaeth a’r adrannau’n darparu gwybodaeth allweddol i’r cynulleidfaoedd i gyd ac wedi eu strwythuro mewn fformat syml”.

 

“Wedi’i redeg yn dda iawn ac roedd y cyflwynydd (Phil) yn wych ac yn llawn gwybodaeth ac roedd yn dda iawn am fynegi’r pwyntiau i gyd mewn ffordd ddiddorol gan hefyd bwysleisio pwysigrwydd y materion oedd yn cael eu codi. Llawer gwell na’r cwrs yn y dosbarth a gefais flynyddoedd yn ôl, a oedd dipyn yn arswydus.”

“Rydw i newydd gwblhau’r cwrs gyda Vickie ac roedd yn llawer gwell na’r hyn roeddwn wedi’i ddisgwyl. Cadwodd fy niddordeb drwyddo draw diolch i agwedd cyfeillgar a llawn hiwmor Vickie ac fe weithiodd y dull yma’n dda iawn oherwydd dysgais nifer o bethau nad oeddwn i’n eu gwybod neu yr oeddwn wedi eu hanghofio. O ystyried ei fod ar-lein, llwyddodd Vickie i gadw’r grŵp ynghyd yn wych ac roedden ni i gyd yn dysgu gan ein gilydd er nad oedden ni yn yr un ystafell. Aeth yr amser yn llawer cyflymach na’r disgwyl. Rydw i’n argyhoeddedig y bydd yn cael effaith ar fy ngyrru yn y dyfodol”.

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content