doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Nid yw fy rhif gyrrwr yn cael ei adnabod. Beth allaf ei wneud?

Cwestiynau Cyffredin

Nid yw fy rhif gyrrwr yn cael ei adnabod. Beth allaf ei wneud?

Os ydych yn mynd i mewn i porth cynnig cwrs https://offer.ndors.org.uk ac nid yw’r rhif trwydded yrru rydych chi wedi’i nodi yn cael ei adnabod:

Trwydded yrru y DU – y broblem fwyaf cyffredin wrth gofnodi Rhif Gyrrwr yw bod pobl yn cynnwys y Rhif Dyroddi (2 ddigid ar wahân sydd ar ochr dde’r Rhif Gyrrwr 16-Digid) wrth ei roi yn y system. Nid yw’r rhain yn rhan o’r Rhif Gyrrwr.

Trwydded yrru nad yw’n drwydded y DU – rhowch rif eich trwydded yrru yna ticiwch y blwch oddi tano i ddweud nad yw’n drwydded y DU.  Os bydd hyn hefyd yn dal i beidio â gweithio, bydd angen i chi gysylltu â’r Heddlu a gynigiodd y cwrs i chi i sicrhau eich bod wedi rhoi’r manylion cywir iddynt yn eich Adran 172 Cyfaddefiad Gyrrwr ac i gadarnhau’r manylion ar eich llythyr Cynnig Cwrs.

Os bydd gwall Manylion ddim yn cyfateb yn ymddangos, gallai hefyd fod yn gysylltiedig â’r Mis/Blwyddyn Geni neu’r Cyfenw, felly byddai angen i chi wirio gyda’r heddlu ynglŷn â hyn.

Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i’r drwydded yrru rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad at gynigion cwrs gyfateb yn union i rif y drwydded yrru a roddwyd gennych i’r heddlu wrth ymateb i’w gohebiaeth. Os nad yw’n cyfateb, bydd yn cael ei gwrthod gan y porth cynnig.

Gallwch gysylltu â’r heddlu priodol mewn unrhyw un o’r dulliau canlynol:

  • Defnyddio manylion cyswllt yr heddlu ar eich Llythyr Cynnig Cwrs/gohebiaeth gan yr heddlu.
  • Trwy wefan yr heddlu
  • Ffonio’r rhif “101” nad yw’n wasanaeth argyfwng a gofyn am yr adran sy’n delio â Hysbysiadau Cosb Benodedig

Os nad ydych yn cael y gwall manylion ddim yn cyfateb ond rydych yn dal i gael problemau, anfonwch eich cyfeirnod heddlu 16 digid NEU rif eich trwydded yrru i [email protected] gan egluro eich bod yn cael trafferthion gyda’ch Rhif Gyrrwr a byddwn yn ymchwilio i hyn ar eich rhan


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content