doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

TTC

Cwestiynau Cyffredin

TTC

Sut ydw i’n cysylltu â’m darparydd cwrs?

Unwaith y byddwch wedi archebu eich cwrs, byddwch yn derbyn eich e-bost cadarnhau a’ch cyfarwyddiadau ar sut i ymuno, a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i fynychu eich cwrs. Os byddwch yn colli’r e-byst hyn, bydd yn bosibl ichi gael gafael ar fanylion eich cwrs drwy fewngofnodi i’n gwefan: www.thettcgroup.com

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn ydych chi’n chwilio amdano ar ein gwefan, gallwch siarad ag aelod o’r tîm drwy ddefnyddio ein cyfleuster gwe-sgwrsio, y gellir mynd iddo drwy bwyso ar y botwm “Cysylltu â Ni” ar frig y wefan.

Fel arall, gallwch siarad ag un o asiantiaid profiadol cyflenwi gwasanaethau TTC drwy ffonio 0330 0241805 (rydym ar gael o ddydd Llun-ddydd Gwener 08:00 – 17:30, ac ar ddydd Sadwrn 08:30 – 14:00).

Sut ydw i’n mynychu cwrs?

Mae cyrsiau ar gael ar ffurf cwrs ystafell ddosbarth a chwrs ar-lein. Bydd proses archebu cyrsiau TTC yn eich arwain drwy’r dyddiadau a’r amseroedd sydd ar gael ar gyfer y cyrsiau, sy’n rhoi dewis o leoliadau cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau digidol ar-lein.

Beth fyddaf ei angen ar gyfer fy nghwrs?

Mae’n rhaid i chi gael dogfen adnabod â llun i’w dangos i’r hyfforddwr yn ystod y broses gofrestru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ofynion y cwrs a’r broses gofrestru ar gyfer pob cwrs drwy ymweld â gwefan TTC.

Er mwyn mynychu Cwrs Ymwybyddiaeth Ar-lein i Yrwyr, bydd angen i chi gael dyfais (e.e. cyfrifiadur neu liniadur; llechen; ffôn clyfar) gyda chysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd; sydd â gwe gamera; meicroffon; seinyddion neu glustffonau; a digon o wefr yn y batri i barhau drwy gydol y cwrs.

Unwaith y byddwch wedi llwyddo i ymuno â’r cwrs ar-lein, ni fydd unrhyw brofion na gwaith teipio. Rydym yn argymell eich bod yn gofalu fod gennych feiro a phapur wrth law, rhag ofn y bydd angen i chi wneud nodiadau yn ystod y cwrs.

Ar ba blatfform mae’r cyrsiau ar-lein yn cael eu cynnal?

Bydd eich cwrs TTC ar-lein yn cael ei gynnal drwy ddolen fideo ddiogel ar blatfform Zoom. Bydd eich e-bost cadarnhau archeb yn rhoi dolen i chi i’w defnyddio i lawrlwytho Zoom Cloud Meetings cyn eich cwrs, er mwyn i chi gael amser i brofi eich holl offer a gofyn am gymorth technegol cyn dyddiad eich cwrs.

Os bydd arnoch angen cymorth i baratoi ar gyfer cwrs ar-lein, gall tîm cymorth technegol TTC drefnu galwad gyda chi cyn y cwrs i ateb unrhyw gwestiynau a mynd ati i ddatrys unrhyw broblemau a allai eich rhwystro rhag cwblhau eich cwrs.

Pryd fyddaf i’n derbyn y cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer y cwrs a ble ydw i’n dod o hyd iddynt?

Byddwch yn derbyn eich e-bost cadarnhau archebu yn syth. Bydd hwn yn cynnwys manylion eich cwrs a gwybodaeth ddefnyddiol i baratoi eich dyfais os nad ydych eisoes wedi gosod Zoom arni. Ar gyfer cyrsiau ystafell ddosbarth, bydd eich cyfarwyddiadau ymuno yn cynnwys manylion ar sut i ddod o hyd i leoliad eich cwrs, er mwyn i chi gynllunio eich taith a chaniatáu digon o amser.

Byddwn yn anfon neges atgoffa SMS 24-awr cyn eich cwrs. Ar gyfer cyrsiau ar-lein, byddwch hefyd yn derbyn e-bost a fydd yn cynnwys eich cyfarwyddiadau ymuno y diwrnod cyn eich cwrs, gan gynnwys y ddolen ymuno â’r cwrs ar Zoom.

Rydym wedi creu fideo sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ar sut i ymuno â’ch cwrs ar-lein: https://youtu.be/sB0t84bvxws

Os yw eich cyfeiriad e-bost neu rif eich ffôn symudol wedi newid ers ichi archebu’r cwrs, bydd angen i chi ddiweddaru hyn ar DORS yn https://offer.ndors.org.uk/#/home

Rydw i ar fin cychwyn fy nghwrs ar-lein ond ni allaf gael mynediad iddo. Ble ydw i’n dod o hyd i’r cyfarwyddiadau ymuno?

Y lle cyntaf i chwilio yw ym mewnflwch eich e-bost, gan y byddwch wedi derbyn y cyfarwyddiadau ymuno cyntaf, yn ogystal â neges atgoffa drwy e-bost sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol y diwrnod cyn eich cwrs.

Os na allwch ddod o hyd i’ch e-bost cyfarwyddiadau ymuno, gallwch gael mynediad i’r cwrs drwy fewngofnodi ar wefan TTC www.thettcgroup.com. Byddwch angen rhif eich trwydded yrru a’ch cod post.

Dydw i ddim yn gwybod llawer am dechnoleg ac rydw i’n poeni am wneud fy nghwrs ar-lein. Pa gymorth sydd ar gael gan fy narparydd cwrs?

Mae TTC yn cynnig fersiynau ystafell ddosbarth ac ar-lein o’r cwrs. Cyrsiau ystafell ddosbarth yw’r gorau ar gyfer rhai nad oes ganddynt lawer o brofiad o’r rhyngrwyd neu ddim mynediad i’r rhyngrwyd.

Mae ein cyrsiau ar-lein yn hynod o syml i’w harchebu ac i ymuno â nhw, waeth beth fo lefel eich sgiliau technegol neu eich profiad.

Rydym yn argymell eich bod yn profi ac yn paratoi eich dyfais ymlaen llaw, cyn eich cwrs gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://zoom.us/test Mae cyfarwyddiadau ymuno TTC yn cynnwys cyfarwyddiadau defnyddiol ar sut i wneud hynny ar gyfer profi eich dyfais, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer ymuno â’ch cwrs.

Rydym wedi creu fideo sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ar sut i ymuno â’ch cwrs ar-lein: https://youtu.be/sB0t84bvxws

Os ydych yn dal yn teimlo’n bryderus ynglŷn â mynychu eich cwrs digidol, mae gennym dîm cymorth technegol pwrpasol, y gallwch gael gwe-sgwrs â nhw yn www.thettcgroup.com neu drwy ffonio 0330 0241805 (rydym ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 08:00 – 17:30, Dydd Sadwrn 08:30 – 14:00).


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content