doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Wedi anghofio/colli Cyfeirnod

Cwestiynau Cyffredin

Wedi anghofio/colli Cyfeirnod

Mae’n bosibl i chi gael mynediad i’ch data yn https://offer.ndors.org.uk yn Cofrestru. Os nad yw eich cyfeirnod gennych neu os ydych yn dymuno cael mynediad i wybodaeth am gyrsiau blaenorol, dewiswch ‘Wedi anghofio fy nghyfeirnod’ – bydd hyn yn rhoi mynediad i’r dudalen cais am wybodaeth a bydd angen ichi nodi rhif eich trwydded yrru.

Bydd angen i chi ychwanegu’r cod post a ddefnyddiwyd gennych adeg y drosedd a rhif ffôn lle gallwch dderbyn negeseuon testun.

Yna bydd rhaid i chi gytuno i dderbyn telerau’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron cyn mynd ymhellach.

Bydd cod dilysu unigryw ‘unwaith yn unig’ yn cael ei anfon i chi. Bydd angen i chi gofnodi hwn ar y sgrin a chlicio ‘dilysu’.

Os yw eich cyfeiriad e-bost ar ein system yn barod byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a hoffech dderbyn y manylion yn y cyfeiriad hwn neu gallwch roi cyfeiriad e-bost arall.

Os yw eich holl fanylion yn cyfateb, byddwn yn gadael ichi wybod fod yr wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani yn cael ei hanfon atoch.

Os nad oes gennych ffôn sy’n derbyn negeseuon testun, bydd angen i chi anfon rhif eich Trwydded Yrru a llun wedi’i sganio/ffotograff o’ch trwydded yrru cerdyn-llun sy’n dangos yr un Rhif Gyrrwr i – [email protected] fel y gallwn wirio pwy ydych a dod o hyd i’ch cofnod.

Ein nod yw ymateb i’ch ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content