doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

A fydd mynd ar y cwrs yn cael effaith ar fy yswiriant?

Cwestiynau Cyffredin

A fydd mynd ar y cwrs yn cael effaith ar fy yswiriant?

Nid oes gan yr un heddlu’r gallu i ymyrryd â’r diwydiant yswiriant na’i reoleiddio, ac mae pob darparwr yswiriant a’u tanysgrifwyr yn rhydd fwy neu lai i godi premiymau yn seiliedig ar eu hasesiad risg eu hunain.

Cwestiwn a ofynnir yn aml gan rai sy’n cael cynnig cwrs ac sy’n mynd ar gyrsiau yw a ddylid rhoi gwybod i’w hyswirwyr ai peidio eu bod wedi cael cynnig cwrs a’u bod wedi bod ar gwrs NDORS. Y cyngor cyfreithiol yw nad yw mynychu cwrs NDORS yn euogfarn, ac na ddylid ei drin fel euogfarn, yn wahanol i gosb benodedig.

NID yw data NDORS yn cael ei rannu â chwmnïau yswiriant ac nid oes ganddynt fynediad iddo.

Mae’n ymddangos fod ymateb y diwydiant i NDORS yn anghyson, a bod nifer fechan o yswirwyr yn addasu premiymau unwaith y byddant yn cael eu hysbysu am hyn tra bo’r mwyafrif helaeth yn dangos dim diddordeb o gwbl.

Daeth Deddf Yswiriant Defnyddwyr (Datgelu a Chynrychiolaeth) 2012 i rym ar 6 Ebrill 2013. Mae’r Ddeddf hon yn addasu’r hen reol cyfraith gwlad lle’r oedd polisïau yswiriant yn gontractau “lle dangoswyd y lefel uchaf o ewyllys da”, a oedd yn gorfodi pobl i ddatgelu gwybodaeth a allai fod yn berthnasol, hyd yn oed os na ofynnwyd iddynt wneud hynny. Yn ôl y Ddeddf, nid oes angen bellach i aelodau’r cyhoedd sy’n trefnu yswiriant ar gyfer dibenion nad ydynt yn ddibenion busnes yn bennaf, ond sy’n cynnwys polisi car preifat gyda defnydd busnes Dosbarth 1, geisio dyfalu beth allai yswiriwr fod eisiau ei wybod. Yn hytrach, yr unig beth sydd angen iddynt wneud yw cyflwyno’r hyn y gofynnir amdano, un ai wrth drefnu Polisi neu pan fydd rhywbeth yn newid yn ystod oes polisi. Felly, oni bai bod cwestiwn am fynychu a chwblhau cwrs NDORS yn cael ei ofyn yn benodol pan fydd yr unigolyn yn trefnu’r polisi, neu ar unrhyw adeg arall yn ystod oes y polisi, nid oes unrhyw reidrwydd i’r gyrrwr sydd wedi cwblhau cwrs NDORS ddatgelu hyn i’w yswirwyr. Fodd bynnag, fel bob amser, mae’r manylion i’w gweld yn y print mân.

 

 

 

 

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content