doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

A yw gwefan archebu’r cwrs yn ddiogel?

Cwestiynau Cyffredin

A yw gwefan archebu’r cwrs yn ddiogel?

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich manylion personol rhag cael eu colli’n ddamweiniol, eu defnyddio neu eu cyrchu mewn ffordd anawdurdodedig, eu newid neu eu datgelu. Mae eich data wedi’i amgryptio wrth iddo gael ei drosglwyddo a phan fydd yn ein system.

Mae system DORS+ wedi’i hachredu gan Dîm Rheoli Risg Gwybodaeth Genedlaethol yr Heddlu yn y Swyddfa Gartref. Maen nhw’n darparu adolygiad annibynnol o’r prosesau a’r gweithdrefnau diogelwch yr ydym wedi’u rhoi ar waith.

Mae diogelwch system DORS + yn cael ei wirio’n annibynnol (ar lefel GWIRIO) yn flynyddol.

Mae system DORS+ yn cael ei chynnal, ac mae eich data’n cael ei storio mewn canolfannau data yn y DU sydd wedi’u hachredu fel Cyfleusterau Diogel a Sicrhawyd gan yr Heddlu. Nid ydym yn storio, prosesu nac yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r DU.

Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad at ddata personol a gedwir ar system DORS+ i’r gweithwyr, asiantiaid, contractwyr a thrydydd partïon hynny sydd ag angen busnes i wybod ac sydd wedi’u fetio gan yr Heddlu. Mae pob mynediad o’r fath yn cael ei archwilio, ac mae’r unigolion hyn yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

Gallwch weld pwy sydd wedi cael mynediad i’ch data drwy edrych ar weithgaredd y cyfrif pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif.

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content