doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Am faint o amser fyddwch chi’n cadw fy manylion ar eich system?

Cwestiynau Cyffredin

Am faint o amser fyddwch chi’n cadw fy manylion ar eich system?

Os ydych wedi bod ar gwrs NDORS bydd UKROEd yn cadw eich cofnod ar ein system (DORS+) am gyfnod o dair blynedd a 6 mis ar ôl dyddiad eich trosedd.

Mae’r cyfnod cadw hwn yn cynnwys dwy elfen:

  • Cyfnod Cymhwysedd: Unwaith y byddwch yn cwblhau eich cwrs, ni fyddwch yn cael cynnig cwrs am yr un math o drosedd am gyfnod o 3 blynedd ar ôl dyddiad y drosedd.
  • Cyfnod Gweinyddol: Cynhelir Archwiliadau Cymhwysedd ar ôl i drosedd gael ei darganfod ac ar ôl canfod pwy yw’r gyrrwr. Er mwyn cefnogi’r archwiliad cymhwysedd hwn, rydym yn cadw eich cofnod am gyfnod ychwanegol o 6 mis fel y gall yr heddlu brosesu unrhyw gynigion o gyrsiau ar gyfer trosedd newydd.

Os nad ydych wedi mynychu cwrs, bydd eich cofnod yn cael ei gadw ar ein system am gyfnod o 12 mis ar ôl dyddiad eich trosedd er mwyn cefnogi prosesau’r heddlu.

Mae mynediad i’ch cofnod ar ein system yn cael ei reoli’n gaeth. Dim ond sefydliadau ac unigolion sydd ag angen busnes clir ac y gellir ei gyfiawnhau a all gael mynediad i’ch cofnod. Mae pob mynediad i’ch data yn cael ei archwilio ac, os ydych wedi creu cyfrif, gallwch weld pwy sydd wedi cael mynediad iddo o dan y pennawd “Adolygu Gweithgaredd Fy Nghyfrif” ar ôl ichi fewngofnodi.

Mae manylion am ein cyfnodau cadw i’w cael yn ein Datganiad Preifatrwydd y gellir ei weld yn: https://offer.ndors.org.uk/#/privacy-statement

 

 

 

 

 

 


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content