doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

DriveSafe

Cwestiynau Cyffredin

DriveSafe

 

Gwybodaeth am gwrs DriveSafe – cwestiynau cyffredin

 Pa fath o gwrs yw hwn?

Ar gyfer y Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Cyflymder, y Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol, y Cwrs Beth sy’n ein Gyrru Ni? neu’r Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Berygl i Reidwyr, erbyn hyn gallwch gwblhau’r cwrs:

  • NAILL AI – ar-lein yn eich cartref eich hun gan ddefnyddio ZOOM gyda 9 cleient a’n Hyfforddwr.
  • NEU – yn un o’n lleoliadau ystafell ddosbarth ym Manceinion Fwyaf drwy deithio i naill ai Bolton (Horwich), Trafford neu Gorton – yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.

Mae’n rhaid i chi ddarparu dogfen adnabod swyddogol gyda llun er mwyn gwneud y cwrs. Dyma rai enghreifftiau:

  • trwydded yrru cerdyn llun
  • pasbort (dilys neu wedi dod i ben)
  • cardiau adnabod ffurfiol (y lluoedd arfog, heddlu, undeb myfyrwyr, cerdyn adnabod cwmni)
  • bathodyn glas (parcio i bobl gydag anableddau)

Os ydych yn ansicr a yw eich dogfen adnabod yn dderbyniol cysylltwch â ni cyn eich cwrs.

Os byddwch yn dewis y cwrs ar-lein, bydd angen i chi allu defnyddio dyfais  (cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar) gyda microffon a chamera sydd â chysylltiad dibynadwy â’r we sy’n gallu ffrydio fideo. Gallech chi ddefnyddio ffonau clyfar, ond bydd y cwrs yn llawer mwy effeithiol os oes gennych sgrin fwy. Bydd angen i chi fod mewn ystafell breifat, ar eich pen eich hun heb unrhyw ymyriadau. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y cwrs ar ei hyd – ni chewch ddiffodd eich gwe-gamera, gadael y cwrs na chael aelodau eraill o’ch cartref yn yr ystafell gyda chi (oni bai bod hynny wedi’i gytuno o flaen llaw). Dylai cleientiaid roi holl sylw i’r cwrs a pheidio â gadael i unrhyw beth dynnu eu sylw.

Ar gyfer y cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol ewch i wefan DriveSafe i gael rhagor o wybodaeth.

 

Sut ydw i’n cwblhau cwrs digidol ar-lein gyda DriveSafe?

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio’r platfform ZOOM gyda hyd at 9 o gleientiaid a’n Hyfforddwr.

I gael gwybodaeth am gwblhau cwrs digidol ar-lein gyda DriveSafe, ewch i www.drivesafe.org.uk lle gallwch ddysgu am:

  • y gofynion o ran dyfeisiau
  • sut i ymuno â’ch cwrs
  • sut i brofi Zoom
  • gwybodaeth bwysig arall

Gallwch hefyd wylio ein fideo 2 funud defnyddiol  sy’n esbonio sut y gallwch sicrhau eich bod yn ymuno â’ch cwrs digidol ar-lein yn llwyddiannus.

 

Pryd fyddaf i’n derbyn fy nghyfarwyddiadau am ymuno â’r cwrs DriveSafe ar-lein?

Byddwch yn derbyn e-bost 24 awr cyn dyddiad eich cwrs felly gallwch lawrlwytho a phrofi eich bod yn gallu ymuno â ZOOM yn llwyddiannus. Os na fyddwch chi’n derbyn y ddolen, edrychwch yn eich ffolder ‘sothach’ neu ‘sbam’. Os nad yw yno o hyd, ffoniwch ni cyn eich cwrs ar 0300 123 1518 (rydym yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am-3:00pm).

Sut ydw i’n cysylltu â DriveSafe?

Ewch i  www.drivesafe.org.uk  neu ffoniwch ni ar 0300 123 1518 (rydym yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8:30am-3:00pm). Byddwch angen eich rhif cyfeirio heddlu a’ch PIN.


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content