doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Gofynion Ychwanegol

Cwestiynau Cyffredin

Gofynion Ychwanegol

Fel sefydliad rydym yn trin ymlyniad at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel blaenoriaeth, yn arbennig yn y modd y gofynnwn i’n darparwyr gyflwyno i’r cyhoedd ar ran Gwasanaeth Heddlu’r DU.

Bydd unrhyw addasiad rhesymol yn ystyried y ffordd orau o sicrhau darpariaeth ar gyfer cais er budd pawb ar y cwrs, a dylai hyn gael ei drefnu yn unigol gyda’r mynychwr cyn y cwrs neu yn ystod y cyfnod archebu fel y gall Darparydd y Cwrs fynd ati i wneud trefniadau.

Mae’r addasiadau rhesymol hyn yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Amser gweddïo
  • Gofynion Iaith Arwyddion Prydain – BSL
  • Anableddau gweladwy ac anweladwy
  • Bwydo ar y fron (gweler rhagor o gwestiynau cyffredin ar hyn)
  • Angen gofalwr/dehonglydd

Mae’n rhaid i bawb sydd ar y cwrs fynychu’r cwrs cyfan er mwyn ei gwblhau.

Ceisiwch benderfynu pa amser fyddai orau i chi.

Os bydd unigolyn ag anghenion arbennig yn absennol yn ystod unrhyw ran o’r cwrs heb ganiatâd gallai hynny olygu ei fod yn methu â chwblhau’r cwrs a gallai hynny olygu fod y drosedd yn dychwelyd i’r broses cyfiawnder troseddol.

Er mwyn cael mynediad i safle archebu cwrs a chysylltu â darparydd cwrs i drafod eich gofynion, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

Ewch i  https://offer.ndors.org.uk  lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

  • COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau ddull yn mynd â chi i’r Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu i ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs os bydd angen neu i wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content