doc-spreadsheet doc-text doc-image doc-video doc-slideshow doc-pdf

Rydw i wedi archebu cwrs ond dydw i ddim wedi derbyn cadarnhad. Beth ddylwn i wneud?

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi archebu cwrs ond dydw i ddim wedi derbyn cadarnhad. Beth ddylwn i wneud?

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Darparydd Cwrs yr ydych wedi archebu ag ef cyn gynted ag y gallwch.  Dilynwch y canllawiau isod i wneud hyn.  Hefyd, gwiriwch negeseuon e-bost gan eich darparydd cwrs a chofiwch edrych yn eich negeseuon sothach.

Ewch i https://offer.ndors.org.uk lle byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion eich Cynnig Cwrs drwy wneud hyn:

COFRESTRU: Nodi’r Cyfeirnod a’r PIN sydd yn eich llythyr Cynnig Cwrs, neu eich Cyfeirnod a nodi eich Rhif Gyrrwr yn y maes PIN yn lle rhif PIN.

NEU

  • MEWNGOFNODI: Os gwnaethoch ddewis creu cyfrif o’r blaen, ac os ydych wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost, gallwch fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddyfais “Wedi anghofio eich Cyfrinair” i osod neu i ail-osod eich cyfrinair os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.

Bydd y ddau opsiwn yn eich cymryd at eich Dangosfwrdd:

  • Bydd clicio ar “Gweld Fy Nghyrsiau” yn caniatáu ichi chwilio am Leoliad Cwrs cyfleus neu ddarganfod eich archeb gyfredol. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu â’r darparydd cwrs os byddwch angen newid dyddiad neu amser eich cwrs neu wneud rhagor o ymholiadau.
  • Bydd clicio ar “Rheoli Fy Manylion” yn caniatáu ichi weld a diweddaru’r manylion a ddarparwyd gennych wrth gofrestru – gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Os na allwch gofio manylion darparydd y cwrs, ewch yn ôl at yr heddlu a anfonodd y cynnig gwreiddiol atoch a dylent hwy allu eich helpu – neu edrychwch i weld i bwy wnaethoch chi dalu am eich cwrs, a dyma fydd eich darparydd cwrs.

Er mwyn cael mwy o fanylion y darparydd y cwrs, gweler eu tudalennau Cwestiynau Cyffredin yma Cwestiynau Cyffredin | UKROEd a NDORS o dan yr adran gyda’r pennawd Cael mynediad i’ch cwrs a’ch darparydd cwrs

Neu dilynwch y ddolen hon i ganfod eich darparydd cwrs a’r manylion cysylltu:

www.ukroed.org.uk/faqs/course-provider-contact-list-november-2022/


Wnaethoch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin?

Os na wnaethoch, gallech gysylltu â ni.


Skip to content